Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer YouVsTrain.co.uk

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.youvstrain.co.uk

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Network Rail, gyda chefnogaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

e-bostiwch YouVsTrain@networkrail.co.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: YouVsTrain@networkrail.co.uk

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 , oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 13 Mehefin 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 13 Mehefin 2023

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Mehefin 2023. Cynhaliwyd y prawf gan y tîm You vs Train.

Fe wnaethon ni brofi pob tudalen gan ddefnyddio profion llaw ac awtomataidd.