Mae Stay off the tracks yn paru ymatebwyr cyntaf â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ffilm i ail-greu effeithiau erchyll tresmasu rheilffordd ar ddioddefwyr a’u hanwyliaid.

Mae Martin Gibbon, cyfarwyddwr perfformiadau ffilm a theatr a swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Megan Fifield a George Philpot, yn trafod yr ymatebion emosiynol gan anwyliaid yn dilyn trychineb diogelwch rheilffordd.

Mae’r rheilffordd yn llawn risgiau annisgwyl, ac mae bod ar y traciau yn fwy peryglus nag y mae pobl yn ei sylweddoli.

Amddiffynnwch eich hun rhag anafiadau trychinebus sy’n newid bywyd – neu’n waeth. Arhoswch oddi ar y traciau. Dydy o ddim yn werth chweil.

Rhannu
Yn ôl i newyddion